Mae mis Medi yn nodi dechrau tymor newydd, ac mae'n amser perffaith i ddechrau pennod newydd a gwneud ambell addewid i chi’ch hun. Gyda’r momentwm ychwanegol sy'n dod ar yr adeg hon o'r flwyddyn, mae gosod nodau newydd a gwneud newidiadau yn ymddangos yn fwy cyraeddadwy heb flwyddyn gron newydd o'ch blaen. Felly, beth am fanteisio ar yr holl bethau sydd gan y mis newydd hwn i'w cynnig?
Yn treulio mwy o amser gartref? Y plant wedi mynd yn ôl i'r ysgol? Mae mwy o amser 'fi' yn golygu mwynhau’r gweithgareddau rydych wedi bod yn eu haddo i’ch hunan trwy’r flwyddyn heb gael cyfle i’w gwneud nhw. Dewch o hyd i ffordd o fod yn fwy egnïol yn ystod eich wythnos gwaith neu cewch wared ar y pwysau trwy weithgareddau dihangol lleol. Mae'n hawdd iawn mynd yn rhy sownd wrth drefn nad yw’n blaenoriaethu gweithgareddau iach, a cholli’r ffiniau rhwng gwaith a bywyd personol. Mae byw'n agos at y dŵr yn golygu y gallwch mwynhau padlfyrddio mewn sesiwn ragflas padlfyrddioamser cinio neu herio’ch hun gyda sesiwn ioga padlfyrddio ar ôl gwaith.
Mae’r boreau a’r nosweithiau tywyllach yn gallu gwneud i hyd yn oed y rhai sydd fwyaf brwd dros ymarfer corff ddewis paned gysurus yn lle gweithgaredd cyn neu ar ôl gwaith. Ond gall meistroli sgil newydd fod yn un o ysgogiadau gorau bywyd. Fel arfer, mae gorfodi eich hun i wneud pethau sydd y tu allan i’ch cynefin yn anoddach ei wneud wrth weithio gartref yn y gaeaf, felly beth am gofrestru ar gyfer cwrs sy'n gadael i chi fanteisio ar yr awyr agored yn llawn, yn mynd â chi ymhell o’ch desg ac yn ymrwymiad sy’n eich gadael yn llai tebygol o ddewis aros yn y tŷ?
Ac unwaith y byddwch wedi meistroli un sgil, megis crefft padlfyrddio, byddwch am gadw'r momentwm hwnnw i fynd a dysgu rhywbeth arall.
Gall gweithio gartref olygu llai o brofiadau cymdeithasol. Gall ymuno â grŵp cymdeithasol padlfyrddio ganiatáu i chi roi unrhyw sgiliau padlfyrddio newydd ar waith, a chwrdd â chymuned gyfan o badlfyrddwyr lleol yng Nghaerdydd sydd wrth eu boddau o fynd allan ar y dŵr bob nos Fercher.
Dewch o hyd i badlfyrddau yn agos atoch chi, yn DGRhC. Gyda'r holl offer wedi'u trefnu, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw pori trwy ein dewis o weithgareddau padlfyrddio a phenderfynu pa un sy’n apelio atoch chi.